Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 11 Mehefin 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 – 12.00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Peter Black AC Jocelyn Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC Jenny Rathbone AC Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant AC, Gweinidog Tai ac Adfywio Alyn Williams, Llywodraeth Cymru Helen Kellaway, Llywodraeth Cymru Steve Munro, National Association of Caravan Owners Dan Ellacott, National Association of Caravan Owners Ros Pritchard, Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain Huw Pendleton, British Holiday and Home Parks Association Alicia Dunne, Y Cyngor Carafanau Cenedlaethol Judith Archibold, Y Cyngor Carafanau Cenedlaethol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Elizabeth Wilkinson (Ail Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a'i swyddogion.
3 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 4
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau.
3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau i ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r Pwyllgor:
dadansoddiad o enghreifftiau ysgrifenedig o'r 1,200 o gwynion a ddaeth i law mewn blwyddyn gan berchnogion carafannau;
nodyn am farn y gymdeithas am y cynnig i gyflwyno gorchmynion ad-dalu, a fyddai'n galluogi deiliad carafannau gwyliau i wneud cais i lys ynadon i adennill taliadau penodol a wnaed gan feddiannydd i berchennog safle sydd heb drwydded;
nodyn ynghylch a oes angen cyflwyno prawf person addas a phriodol ar gyfer rheolwyr safle carafannau gwyliau.
4 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 5
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain a'r Cyngor Carafannau Cenedlaethol.
4.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain i ddarparu nodyn ar y cyfraddau busnes a delir gan barciau carafannau i awdurdodau lleol yng Nghymru, a gafodd ei gynnwys yn ei hastudiaeth gyda Croeso Cymru yn 2011.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan Chwaraeon Cymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
7 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 3, 4 a 5
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.